Yn nechrau’r saithdegau heblaw am yr ysgolion uwchradd nid oedd yna dim Rygbi yng Nghastell Newydd na Llandysul a’r cylch. Serch hynny, roedd yna gefnogaeth gref i’r gêm ar sail clybiau fel LIanelIi ac eraill yn ogystal ag i orchestion timau Cymru a’r Llewod.
Fel i lawer un arall a oedd wedi gorffen chwarae’r gêm yn rheolaidd, bu’r blynyddoedd hyd 1977 yn wagle o gyfle i gefnogi ar raddfa leol.
Mae’n debyg bod yna ymgais wedi bod i sefydlu tîm yn gynharach ond heb fawr o lwyddiant. Bu Aelwyd yr Urdd hefyd yn trefnu cystadleuaeth 7 bob ochr fel rhan o’i gweithgareddau gydag 16 o dimau lleol yn cystadlu yn frwd am Gwpan Her. Tybed beth ddaeth o’r tlws hwnnw ac yn nwylo pwy y mae yn awr?
Yn ystod yr un cyfnod bu yna gystadleuaeth frwd i’r ysgolion cynradd gydag un gêm derfynol gofiadwy rhwng Ysgol Gynradd Adpar ac Ysgol Gynradd yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn yn aros yn y cof. Roedd yna garfan gref o rieni’r ddau dîm yn gwylio gyda’r awyrgylch yn drydanol a dweud y lleiaf.
Heb os nag oni bai roedd yna gefnogaeth aeddfed yn bodoli a arweiniodd at sefydlu’r clwb presennol ym mis Gorffennaf 1977. Bu’r gefnogaeth hon yn amlwg iawn trwy gydol 25 mlynedd ein bodolaeth gyda llawer o bobl o ddalgylch eang yn cyfrannu at y llwyddiant.
Byddai angen llyfr cyfan i wneud tegwch â’r holl wynebau a fu mor weithgar, felly mae’n well peidio enwi neb a chofnodi mai mawr yw dyled cenedlaethau o chwaraewyr o bob rhyw am eu llafur diflino.
Mae’r 25 mlynedd diwethaf yn hanes bellach. Tybed beth fydd hynt a helynt y chwarter canrif nesaf?
Medrwn deimlo’n hyderus o weld bwrlwm noson gyflwyno flynyddol yr Adran Iau yn ddiweddar ac mae llwyddiant em tîmau Ieuenctid, y Dreigiau a’r Tîm Cyntaf yn ystod tymor yn argoeli’n dda lawn ar gyfer y dyfodol.
Medrwn ymhyfrydu hefyd yng ngodidowgrwydd Meysydd Dôl Wiber a’r ystafelloedd newid hardd gyda’r Eisteddle bellach yn goron ar y cyfan. Mae’n dyled am hyn eto yn fawr i lawer am eu llafur a’u hymroddiad.
Mae’n destun diolch em bod i gyd wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r bwrlwm a gallwn fod yn ffyddiog y bydd y genhedlaeth newydd yn diogelu ei hetifeddiaeth eto i’r oes a ddêl. Llongyfarchiadau i’r Clwb yn 25 oed a phob dymuniad da i’r dyfodol.