Hafan yr Ymgyrch / Home Page
YMGYRCH GWARCHOD EITHINOG A CHAEAU BRIWAS /
SAVE EITHINOG & BREWERY FIELDS CAMPAIGN
Diweddarwyd / Updated: 16/06/2005
Adroddiad Bioamrywiaeth arlein / Biodiversity Report now online.
Mehefin 2005/June 2005: Nifer y tai i'w gostwng / Reduction in housing.

 Hafan yr Ymgyrch / Home Page  Beauty Threatened/Destroyed  360 Panorama  Gwynedd Council's Broken Promise  2004 Biodiversity Report & Maps  June 2005 - Latest Council Plan  Cae Sledio still threatened

DRAFFT ADNEUO, CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL (MEH. 2004)/
DRAFT DEPOSIT, UNITARY DEVELOPMENT PLAN (JUNE 2004)




Mapiau'n dangos bod Cyngor Gwynedd bellach am ddynodi'r caeau i godi 250 o dai, yn y fan lle y bwriadwyd sefydlu Gwarchodfa Natur yn nrafft cyntaf y Cynllun Datblygu Unedol newydd (2002), yn groes i addewid a wnaethpwyd yn 1998 i drigolion Bangor i neilltuo tir yn warchodfa natur. Daeth cyfnod ymgynghori'r cynllun datblygu i ben ar Awst 6ed, 2004. Anfonwyd dros 320 o wrthwynebiadau ffurfiol i Gyngor Gwynedd!!! Diolch yn fawr i bawb. Bydd hyn yn achosi penbleth i'r cyngor.
 
Maps illustrating that Gwynedd Council now intends to designate the fields as development land for 250 houses, on the site where a Nature Reserve was to be established in the 1st draft of the new Unitary Development Plan (2002), breaking a promise made to Bangor Residents in 1998 to set aside land as a nature reserve. The development plan consultation period ended August 6th, 2004. More than 320 formal objections were sent to Gwynedd Council!!! Very many thanks to everyone. This will cause Gwynedd Council quite a few problems.
 
 
DATBLYGIAD PWYSIG - 2005!!
Adroddiad Bioamrywiaeth a gomisiynwyd gan y cyngor yn dilyn pwysau gan bobl leol yn chwalu cyfiawnhad Cyngor Gwynedd dros ddatblygu'r hafan natur yma, ac yn profi fod pobl leol - a gafodd ddiystyru eu barn ers 11 mlynedd - yn llygad eu lle yn pwysleisio safon y cynefinoedd sy'n bresennol.

STOP PRESS - 2005!!
Biodiversity Report commissioned by the council following local pressure shatters Gwynedd Council's case for developing this nature haven, and proves that local people - whose opinions have been ignored for 11 years - were correct all along in emphasising the quality of the habitats present.
 
Fel y dywed yr adroddiad / As the report says:

"...the bulk of the site was found to support a range of semi-natural habitats, the majority of which are in good condition. The
majority of these are Priority habitats at the local (Gwynedd), national (Wales) or UK levels.

These habitats are: wet woodland, neutral grassland, lowland acid grassland hedgerows and cloddiau.
The neutral grassland component is of a sufficient extent and quality as to represent a site which is potentially important at the Gwynedd and North Wales level."
 
 
* MIS MEHEFIN 2005 - CYNGOR GWYNEDD YN YSTYRIED GOSTWNG NIFER Y TAI NEWYDD O 250 I 82
Bydd cynnig gan Gyngor Gwynedd i ddileu yn llwyr eu cynlluniau i adeiladu yn rhan Caeau Briwas y safle yn cael eu rhoi gerbron Pwyllgor yr Amgylchedd ar Fehefin 23ain. Byddai'r cynnig yma'n clustnodi 8.5 acer pellach yn rhan Eithinog y caeau i godi tai, yn cynnwys fe ymddengys beth bynnag un cae y nodwyd ei fod yn cynnwys cynefin blaenoriaeth. Ar ben hyn, roedd cynlluniau i godi ysgol gynradd newydd ger maes parcio Ysgol Friars. Gweler YMA os am weld map damcaniaethol.
 
* JUNE 2005 - GWYNEDD COUNCIL TO CONSIDER REDUCING THE NUMBER OF NEW HOUSES BUILT FROM 250 TO 82
A Gwynedd Council proposal to completely scrap their plans to build on the Brewery Fields area of the site is to be put to the Environment Committee on June 23rd. This proposal would earmark an additional 8.5 acres in the Eithinog part of the fields for residential development, including it seems at least one field highlighted as priority habitat. In addition there were plans to build a new primary school next to the Ysgol Friars car park. Click HERE to see a speculative map.
 
*Mis Mehefin 2005 - Lluniau Cae Sledio, dôl flodeuog a chynefin blaenoriaethol y tybir ei fod yn dal i'w ddatblygu gan Gyngor Gwynedd, gweler YMA.
 
*June 2005 - Photos of Cae Sledio, wildflower meadow and priority habitat, probably still earmarked for development by Gwynedd Council, see HERE.


DIGWYDDIADAU - 2004
Dydd Gwener, Gorffennaf 16eg, 12.00pm - parc gyferbyn â Neuadd y Penrhyn - rali ar gyfer bobl leol i ddangos ein gwrthwynebiad i'r cynlluniau datblygu a'r ffordd newydd fwriedig drwy'r caeau o Benrhos i Belmont. BYDD RADIO CYMRU, Y PAPURAU AYB YNO - DEWCH YN LLU! Cyfle i roi cyhoeddusrwydd i'r ymgyrch/lluniau yn y papurau, ac hefyd i ymweld â'r arddangosfa isod.
Dydd Gwener, Gorffennaf 16eg, 11.00am-8.00pm, Swyddfeydd Cyngor Bangor (Neuadd y Penrhyn) - ail arddangosiad o gynlluniau datblygu Cyngor Gwynedd ar gyfer Bangor. Cyfle i weld y cynlluniau ar gyfer Eithinog a Chaeau Briwas, cae chwarae hen Ysgol Friars Isaf, ayb, ac i holi'r swyddogion am eu penderfyniadau.
Dydd Llun, Gorffennaf 26ain, 6.30pm+, Ysgol y Garnedd, Ffordd Penrhos - Cyfarfod Cyhoeddus i rannu'r newyddion diweddaraf, gwybodaeth a syniadau am y cynllun dinistriol yma, ac i gynllunio'r ymgyrch. Bydd gwahoddiad yn cael ei estyn i arbenigwr bywyd gwyllt ac i gynrychiolwyr Cyngor Gwynedd.
Dydd Mercher, Gorffennaf 28ain, 5.30pm+, Swyddfeydd Penrallt, Caernarfon, Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio Arfon - cyfle olaf i fynegi ein barn, cyn i gyfnod ymgynghori'r cynllun datblygu newydd ddod i ben.
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 31ain, 2.15pm+, cyfarfod ym maes parcio Ysgol Friars, Eithinog, clirio llwybrau yn y caeau. Croeso i bawb! Mae rhai o'r llwybrau troed wedi gordyfu - e.e. y llwybr ger y coed - ac mae angen eu clirio. Dewch â strimer, siswrn, tociwr, offer gardd! Byddwn yn trefnu diwrnod tebyg bnawn Sadwrn olaf mis Awst a mis Medi hefyd.
 
*DYDD GWENER, AWST 6ED, 5.00PM - DYMA ADEG CAU'R CYFNOD YMGYNGHORI AR Y CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL. GWNEWCH YN SIWR EICH BOD WEDI DYCHWELYD EICH FFURFLEN WRTHWYNEBU CYN HYN!! CYSYLLTWCH AG eithinog@lycos.co.uk OS AM GOPI.
 
EVENTS - 2004
Friday, July 16th, 12.00pm - the park opposite Penrhyn Hall - a rally for local people to show our opposition to the development plans and the proposed new road through the fields from Penrhos to Belmont. RADIO CYMRU, THE PAPERS ETC ARE COMING - MAKE SURE YOU'RE THERE! An opportunity to publicise the campaign/photos in the papers, also to visit the display below.
Friday, July 16th, 11.00am-8.00pm, Bangor City Council Offices (Penrhyn Hall) - second showing of Gwynedd Council's development plans for Bangor. A chance to see the plans for Eithinog & Brewery Fields, the old Lower Friars School playing field, etc., and to ask officers about their decisions.
Monday, July 26th, 6.30pm+, Ysgol y Garnedd, Penrhos Road - Public Meeting to share latest news, information and ideas re. this disastrous plan, and plan the campaign. A wildlife expert, as well as Gwynedd Council representatives, are to be invited.
Wednesday, July 28th, 5.30pm+, Penrallt Offices, Caernarfon, Arfon Planning Committee Meeting - last chance to express our opinions, before the end of the new development plan consultation period.
Saturday, July 31st, 2.15pm+, meet at the Ysgol Friars car park, Eithinog, path clearing in the fields. All are welcome! Some of the footpaths have become overgrown - e.g. the path along the wood margin - and need to be cleared. Bring your strimmer, shears, pruners, garden implements! We will be arranging a similar event for the last Saturday in August and September.
 
*FRIDAY, AUGUST 6TH, 5.00PM - THIS IS THE DEADLINE FOR THE UNITARY DEVELOPMENT PLAN CONSULTATION PERIOD. MAKE SURE THAT YOU'VE RETURNED YOUR OBJECTION FORM BY THEN!! CONTACT eithinog@lycos.co.uk IF YOU WANT A COPY.
 
 
NEWYDDION
1) Mynychodd tua 140+ y cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol y Garnedd Nos Lun Gorffennaf 12fed. Mynegodd Maer Bangor; John Williams (Cynghorydd Sir, Pentir), Dai Rees Jones (Cynghorydd Sir, Glyder), a chynghorwyr lleol eraill oll eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau datblygu. Cyfeiriwyd at gyfarfod fydd rhwng Morgan Parry (pennaeth WWF Cymru) a chynrychiolwyr yr ymgyrch, a Dafydd Iwan ac Aled Davies o Cyngor Gwynedd, i drafod y caeau ar Ddydd Mercher, Gorffennaf 14eg. Cafwyd cefnogaeth bron yn unfrydol i'r syniad y gellid cyflwyno cais arall i sefydlu glastir trefol pe byddai rhaid, llofnododd 99 o bobl ddeiseb yn gofyn i Gyngor Gwynedd gadw at eu gair a sefydlu gwarchodfa natur, cafwyd gwybod bod y briff datblygu'n afreolaidd ac yn wan gan ei fod yn anwybyddu cynefinoedd blaenoriaeth ac yn cambortreadu presenoldeb/diffyg presenoldeb cyfleusterau'n lleol, er enghraifft. Trefnwyd rali ar gyfer pobl leol Ddydd Gwener Gorffennaf 16eg am hanner dydd yn y parc gyferbyn â Neuadd y Penrhyn - lle y bydd arddangosiad o gynlluniau datblygu Bangor y diwrnod hwnnw. Rhoddodd dwsin o bobl eu henwau ymlaen ar gyfer ymddiriedolaeth i oruchwylio'r caeau pan sefydlir gwarchodfa natur. Gosodwyd dyddiad o Ddydd Llun Gorffennaf 26ain yn Ysgol y Garnedd ar gyfer ein cyfarfod cyhoeddus nesaf.
 
2) Dydd Mercher, Gorffennaf 14eg, bu cyfarfod yng Nghaernarfon rhwng Jim Killock (Plaid Werdd Cymru), Maredudd ap Rheinallt (Ymgyrch Gwarchod y caeau) a Morgan Parry (WWF Cymru); ac ar ran Cyngor Gwynedd, Aled Davies (Gwasanaethau Cefn Gwlad) a Dafydd Iwan (cyn Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio ardal Arfon).
Y prif bwyntiau a ddaeth o'r cyfarfod:-
a. Y bwriad ar hyn o bryd yw adeiladu 250 o dai ar y cyfan bron o dir y cyngor yn Eithinog a Chaeau Briwas.
b. Mae'r cynllun i sefydlu gwarchodfa natur a addawyd yn 1998 wedi ei ddileu.
c. Mae Cyngor Gwynedd am weld ffordd newydd yn cysylltu Ffordd Penrhos a Ffordd Belmont, yn mynd drwy'r caeau o Goed y Maes/Maes y Ffynnon i Ffordd Eithinog. Byddai hon yn 'adnodd gwerthfawr' [sic.] i'r gymuned, ac yn ffrydio peth traffig fe dybir o ardal yr Ysbyty i mewn i Fangor Uchaf ar hyd Ffordd Ffriddoedd.
ch. Paratowyd y Briff Datblygu heb ymwybyddiaeth bod llwybrau cyhoeddus sy'n ffurfio rhwydwaith drwy'r caeau (yn sgîl cais a wnaethpwyd yn 1995) wedi'u hysbysebu yn gynharach eleni ac ar fin cael eu mabwysiadu ar y map diffiniadol.
ch. Byddai modd dargyfeirio'r llwybrau cyhoeddus newydd sydd ar fin cael eu cadarnhau drwy'r caeau ar hyd ffyrdd yr ystadau tai newydd. Gwnaeth Dafydd Iwan sylw nad oedd ef erioed yn cofio llwybrau cyhoeddus yn cael eu dargyfeirio fel yma, ond cadarnhaodd Aled Davies y gallai hyn ddigwydd.
d. Ni chafwyd unrhyw addewidion i ddiogelu bywyd gwyllt mewn modd realistig o fewn y caeau, a'r unig dir agored i'w gadw fyddai ychydig o leiniau bychain digyswllt o fewn yr ystadau tai.
dd. Ni chynhaliwyd unrhyw arolwg manwl o'r adnoddau naturiol sy'n bresennol cyn paratoi'r Briff Datblygu, ond cafwyd addewid y byddai un o bartneriaid Natur Gwynedd/uned bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd yn cynnal arolwg felly yn ystod y dau fis nesaf, y wybodaeth i'w rhannu.
e. Cafwyd addewid y byddai'r adran berthnasol yn edrych ar reoli mynediad i'r caeau ger Ysgol y Garnedd i rwystro beiciau modur rhag difrodi'r gwlypdir yno.
f. Ni chafwyd unrhyw addewid i ryddhau canlyniadau arolwg o farn rhan o'r gymuned a gynhaliodd Cyngor Gwynedd yn 1998 ar eu cynlluniau datblygu/gwarchodfa natur, gan wneud y sylw nad oedd y ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth yn berthnasol.
ff. Pwysleisiwyd nad oedd y cynllun ar gyfer 250 o dai o raid yn ei ffurf derfynol, gyda'r cyfnod ymgynghori'n parhau. Ond ni ddangoswyd unrhyw fwriad i leihau maint y datblygiad.
 
3) Diolch i bawb ddaeth i'r cyfarfod nos Lun Gorff. 26 - tua 70-80 yn bresennol i wrando a chyfrannu at drafodaeth ddiddorol, gyda Dafydd Iwan yn annerch. Nifer dda iawn a hithau'n wyliau'r haf.

Rhoddwyd ffurflenni allan ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Eithinog a Chaeau Briwas, i ddechrau sefydlu grwp ffurfiol.

Cyfeiriwyd at ganfyddiad bod Cyngor Gwynedd yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i'r cynllun gwarchodfa natur, a addawyd yn 1998 ond sydd bellach wedi'i ddileu, mor ddiweddar â 2003 - h.y. am gyfnod o bum mlynedd. Nid yw hyn yn cyd-fynd â rhai o ddatganiadau diweddar y cyngor, nad oedd y cynllun yn un pendant.

Datganodd Dafydd Iwan ei fod yn gwrthwynebu ffordd newydd bosib ar hyd y caeau o Faes y Ffynnon i Ffordd Belmont, fyddai'n ffrydio peth o'r drafnidiaeth ychwanegol oddi ar Ffordd Penrhos, ond yn achosi tagfeydd yn Ffordd Ffriddoedd yn sicr. Roedd hefyd yn gwrthwynebu maint y datblygiad, ond credai bod peth datblygu'n anorfod. Anodd dod o hyd i neb hyd yn oed ar y cyngor sy'n fodlon datgan eu cefnogaeth! Gwnaethpwyd y pwynt bod rhaid i gynghorwyr gymeradwyo'r cynllun datblygu, fel rhan o'r broses, ac y gallai cynghorwyr Plaid Cymru - sy'n rheoli'r cyngor - ei wrthod petaent yn dymuno.

Siaradodd Dai Rees Jones, cynghorydd sir ward Glyder yn erbyn maint y datblygiad. Mae cynghorwyr sir Plaid Cymru yn ardal Bangor (Dai Rees Jones (Glyder), John Wyn Williams (Pentir) ayb) yn awr wedi anfon memorandwm i'r cyngor i ofyn iddynt chwilio am dir llwyd i'w ddatblygu.

Datgelwyd bod asesiad arbenigol wedi'i dderbyn bod darnau o'r glaswelltiroedd yn y caeau o safon SSSI, ac y dylai'r arolwg ecolegol sydd i'w drefnu ar gyfer y ddau neu dri mis nesaf gan y cyngor adlewyrchu hyn.

Gosodwyd dyddiad posib ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus nesaf yn Ysgol y Garnedd, sef Dydd Lun, Medi 6ed.

4) Rydym wedi dechrau ar y gwaith o gasglu tystiolaeth ar ddefnydd o lwybrau yn y cyfnod 1978-2004, er mwyn rhoi cais i mewn i gydnabod rhagor o lwybrau cyhoeddus. Rydym wedi dewis 12 o lwybrau posib, yn ddibynnol ar y prawf a gasglir. Mae tua 2 gilomedr o'r prif lwybrau yn agos i gael eu cymeradwyo yn llwybrau cyhoeddus, ond mae eisiau diogelu rhai o'r lleill hefyd. Cysylltwch â'r ymgyrch os oes arnoch eisiau ffurflenni tystiolaeth a map llwybrau.

Byddwn hefyd yn dechrau ar y gwaith o gyflwyno cais i sefydlu glastir trefol yn fuan, a bydd angen tystiolaeth gan ardalwyr o'u defnydd o'r caeau ar gyfer hamddena. Mae mwy o obaith llwyddo rwan efo ceisiadau o'r fath yn sgîl penderfyniad yn Nhy'r Arglwyddi.

Dogfennau ar gael o eithinog@lycos.co.uk: (i) deiseb yn gwrthwynebu'r datblygiad a gofyn i Gyngor Gwynedd gadw ei addewidion; (ii) e-gardiau post gyda lluniau o'r caeau i'w hanfon at gynghorwyr, cyfeillion ayb.; (iii) ffurflenni gwrthwynebu'r briff datblygu / copiau caled ar gael hefyd; (iv) sganiau o'r ffurflenni tystiolaeth llwybrau cyhoeddus & map / copiau caled ar gael hefyd; (v) dogfen pdf Cyngor Gwynedd ar ddatblygu Eithinog & Caeau Briwas, ac hefyd cae chwarae Ffordd Ffriddoedd.

COFIWCH BOD DYDDIAD CAU'R CYFNOD YMGYNGHORI DDYDD GWENER, AWST 6ED. ANFONWCH EICH GWRTHWYNEBIAD CYN HYNNY!
 
 
NEWS
1) About 140+ attended the public meeting held at Ysgol y Garnedd Monday July 12th. The Mayor of Bangor; John Williams (County Councillor, Pentir), Dai Rees Jones (County Councillor, Glyder), and other local councillors all voiced their opposition to the development plans. Reference was made to a meeting to be held between Morgan Parry (head of WWF Cymru) and campaign representatives & Dafydd Iwan and Aled Davies of Gwynedd Council to discuss the fields on Wednesday July 14th. Virtually unanimous support was given to the idea of submitting another town green application if necessary, 99 people signed a petition urging Gwynedd Council to honour their promise and establish a nature reserve, reference was made to irregularities and weaknesses in the development brief due to priority habitats being ignored and misleading information about the supposed presence of local facilities, for example. A rally was organised for local people for Friday July 16th at Midday in the park opposite Penrhyn Hall - which will have an exhibition of Bangor's development plans that day. A dozen people put forward their names as potential trust members to oversee the nature reserve when it is established. A date of Monday July 26th at Ysgol y Garnedd was set for our next Public Meeting.
 
2) Wednesday, July 14th, meeting in Caernarfon:- Jim Killock (Wales Green Party), Maredudd ap Rheinallt (Save E&BF Campaign representative) and Morgan Parry (WWF Cymru); and on behalf of Gwynedd Council, Aled Davies (Rural Services) and Dafydd Iwan (former Chair of the Arfon area Planning Committee).
The main points to emerge from the meeting:-
a. The present intention is to build 250 houses across virtually the whole of the council's land in Eithinog & Brewery Fields.
b. The plan to establish a nature reserve, promised in 1998, has been scrapped.
c. Gwynedd Council is planning for a new through road linking Penrhos Road and Belmont Road, running through the fields from Coed y Maes/Maes y Ffynnon to Ffordd Eithinog. This would be a 'valuable resource' [sic.] for the community, and would presumably channel some traffic from around the Hospital into Upper Bangor along Ffriddoedd Road.
d. The Development Brief was prepared with no awareness that public footpaths forming a network throughout the fields (resulting from an application submitted in 1995) were advertised earlier this year and are about to be adopted on the definitive map.
e. It would be possible to divert the public footpaths across the fields which are about to be confirmed along the roads of the new housing estates. Dafydd Iwan noted that he was not aware of an instance of public footpaths being diverted thus, but Aled Davies confirmed that this could happen.
f. No promise was forthcoming to protect the fields' wildlife in any realistic way, and the only open land preserved would be a few small detached pieces amongst the housing estates.
g. No detailed survey of the natural resources present was made before the Development Brief was prepared, but a promise was extracted that one of Natur Gwynedd/Gwynedd Council's biodiversity unit's partners would conduct this type of survey over the next couple of months, the information to be shared.
h. A promise was forthcoming that the relevant department would consider controlling access to the fields near Ysgol y Garnedd to prevent motorcycles damaging the nearby wetland.
i. No promise was forthcoming to release the results of Gwynedd Council's 1998 partial survey of community opinion re. their development plans/nature reserve plan, whilst suggesting that freedom of information legislation was not relevant.
j. The fact that the plan for 250 houses is not necessarily in its final form was stressed, whilst the consultation period continues. But there was no apparent willingness to reduce the size of the development.
 
3) Thanks to all who attended the meeting on Monday night July 26 - about 70-80 present, who heard & took part in an interesting discussion, with contributions by Dafydd Iwan. A very respectable attendance given that the school holidays have started.

A membership form for the Eithinog & Brewery Fields Society was given out; a group is being constituted on a more formal basis.

There was reference to the discovery that Gwynedd Council had been actively considering the nature reserve plan, promised in 1998 but now scrapped, as late as 2003 - i.e. for a period of 5 years. This does not accord with some of the statements made recently by the council, that the plan was not definite.

Dafydd Iwan stated that he opposed the possible building of a new road through the fields from Maes y Ffynnon to Belmont Road, which would divert some of the additional traffic away from Penrhos Road, whilst undoubtedly causing traffic chaos on Ffriddoedd Road. He also opposed the sheer size of the development, whilst claiming some development was inevitable. It is getting increasingly difficult to find anyone, even on the council, who supports this development! The point was made that councillors will have to approve the development plan, as part of the process, and that Plaid Cymru - the ruling group on the council - could turn it down if they wanted.

Dai Rees Jones, Glyder ward county councillor expressed his opposition to the scale of the development. Bangor area Plaid Cymru county councillors (Dai Rees Jones (Glyder), John Wyn Williams (Pentir) etc) have now sent a memorandum to Gwynedd Council asking that a search be made for brown field sites within the city.

It was revealed that expert opinion has been received that parts of the grasslands are to SSSI standard, the ecological survey which is to be carried out over the next two or three months under Gwynedd Council now being expected to reflect this.

The date of the next public meeting at Ysgol y Garnedd was provisionally set for Monday, September 6th.
4) We have started collecting evidence of footpath use within the fields for the period 1978-2004, in order to submit applications to register further footpaths. We have chosen 12 possible candidates, dependent on the evidence received. About 2km of the main paths are on the verge of being confirmed as public footpaths, but some of the others also need to be protected. Contact the campaign if you need evidence forms & the footpath map.

We shall also be starting work on a town green application, for which we will need evidence of local people's use of the fields for leisure purposes. It is now easier to succeed following a House of Lords decision.

Documents available from eithinog@lycos.co.uk: (i) petition opposing development & asking Gwynedd to honour its promises; (ii) e-post cards with photos of the fields to be sent to councillors, friends etc.; (iii) objection forms to the development brief / hard copies also available; (iv) scans of the public footpath evidence forms & map / hard copies also available; (v) Gwynedd Council pdf document re. both the Eithinog & Brewery Field, and Ffriddoedd Road playing fields developments.

REMEMBER THAT THE CONSULTATION PERIOD ENDS ON FRIDAY, AUGUST 6TH. SEND IN YOUR OBJECTION BEFORE THEN!
 
 
Eisiau Helpu?
1) Rydym wedi gofyn yn y cyfarfod cyhoeddus (Gorffennaf 12fed) am bobl fyddai'n fodlon ystyried bod yn rhan o ymddiriedolaeth i reoli'r caeau - cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych! Mae gennym tua dwsin o enwau eisoes.
2) Yn eisiau - unrhyw un ag arbenigedd mewn gwneud arolwg o lystyfiant/glaswelltir.
3) Rydym wedi lansio deiseb yn gofyn i Gyngor Gwynedd gadw eu haddewid a sefydlu gwarchodfa natur - cysylltwch â'r cyfeiriad ebost os am gopi!
 
Want to Help?
1) In the public meeting on July 12th, we sought people willing to consider joining a trust to manage the fields - contact us if interested! We already have a dozen names.
2) Needed - anyone with expertise in surveying vegetation/grassland.
3) We have launched a petition asking Gwynedd Council to honour their promise to establish a nature reserve - contact the email address if you would like a copy!
 
 
Lluniau o'r caeau - gweler y cysylltau ar frig y dudalen. Newydd - panorama 360' o ganol y caeau.
Photos of the fields - see the links at the top of the page. New - 360' panorama of the central fields.
 
 
Angen copïau o'r dogfennau canlynol?
Os oes arnoch eisiau copïau o'r ddeiseb/ffurflenni gwrthwynebiad i'r cynllun datblygu (i'w dychwelyd i'r Cyngor erbyn Awst 6ed!)/ ffeiliau pdf Briff Datblygu Eithinog neu Cae Chwarae Ffordd Ffriddoedd, cysylltwch â'r cyfeiriad ebost isod!
 
Need copies of the following documents?
If you would like copies of the petition/objection forms to the development plan (to be returned to the Council by August 6th!)/pdf files of the Eithinog Development Brief or that for the Ffriddoedd Road Playing Field, contact the email address below!
 
 
Cysylltwch â/Contact: eithinog@lycos.co.uk
 
 
Ymwelwch â'r wefan yn aml am y newyddion diweddaraf!/Revisit the website frequently for updates!